Cynhadledd Cymru 2022 – Diagnosis o Ddementia – galluogi, nid labelu
Cynhelir Cynhadledd Cymdeithas Alzheimer's Cymru ar 7 Mehefin 2022.
Ymunwch â ni wrth inni archwilio sut na ddylai diagnosis o ddementia ddiffinio rhywun ond yn hytrach eu grymuso i allu rheoli’u bywydau.
Mae yna gyfyngiad ar niferoedd y lleoedd gwag, ac fe’u rhoddir ar sail ‘y cyntaf i’r felin a gaiff falu’
Gwybodaeth am y digwyddiad
Cynhelir y gynhadledd yn y cnawd yn Ramada Plaza, Wrecsam ar y 7fed o Fehefin, 2022.
Bydd y digwyddiad yn neilltuol ryngweithiol gan ganolbwyntio ar drafodaeth ‘bord gron’. Byddwn yn trafod pwysigrwydd diagnosis amserol a chywir yn nhaith dementia, sut i gynorthwyo cymunedau amrywiol yn fwy effeithiol a sut y gallwn ystyried gwledigrwydd a’r iaith Gymraeg, gan adeiladu ar ein gwaith yn rhith-gynhadledd 2021.
Pwy a ddylai fynychu
- Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol
- Meddygon Teulu, Rheolwyr Practis, a Nyrsys Practis
- Pobl yr effeithir arnynt gan ddementia
- Gofalwyr a phobl sy’n byw â dementia
Mae cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn bellach yn llawn. Os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr aros, cysylltwch â ni yn [email protected]
Y rhaglen
09:30yb – Coffi a chofrestru
10:00yb – Croeso a chyflwyniad, Sue Phelps, Cyfarwyddwr Gwlad - Cymru, Alzheimer's Society Cymru ac Andrew Paul (Andy), sy’n byw â dementia
10:30yb – Panel profiad o fyw, Andrew Paul (Andy), sy’n byw â dementia, Kevin Jones a Marilyn Jones (Gofalwyr)
11:00yb - Egwyl
11:15yb - Cyflwyniad 1 - 'Pwysigrwydd diagnosis amserol a chywir', Y Dr Rui Zheng, Seicolegydd Clinigol, a’r Dr Brian Huey, Radiolegydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
11:45 - Cyfnod pontio 5 munud
11:50yb – Trafodaeth ford gron
12:20yp – Cymorth Dementia, Michele Richardson, Rheolwr Gwasanaethau Lleol Dementia Connect, Alzheimer's Society
12:30yp – Sesiwn y bore yn cau, Sue Phelps, Cyfarwyddwr Gwlad - Cymru, Alzheimer's Society Cymru
12:35 - Cinio
13:35 – Croeso yn ôl, Sue Phelps, Cyfarwyddwr Gwlad - Cymru, Alzheimer's Society Cymru
13:45 – Cyflwyniad 2 - 'Cymryd gwledigrwydd a’r iaith Gymraeg i ystyriaeth', Jen Roberts, Swyddog Ymchwil a’r Athro Gill Windle, Prifysgol Bangor.
14:15 - Cyfnod pontio 5 munud
14:20 – Trafodaeth ford gron
14:50 - Egwyl
15:05 – Cyflwyniad 3 - 'Cynorthwyo cymunedau amrywiol yn fwy effeithiol', Trish Caverly, Cydgysylltydd Datblygu Cymunedol, a Kielan Arblaster, Uwch-swyddog Polisi, Alzheimer's Society
15:35 - Cyfnod pontio 5 munud
15:40 – Trafodaeth ford gron
16:10 – Crynodeb a diolch, Sue Phelps, Cyfarwyddwr Gwlad - Cymru, Alzheimer's Society Cymru ac Andrew Paul (Andy), sy’n byw â dementia
16:20 - Cau
Holi ac Ateb
Beth yw’ch polisi Covid?
Cydnabyddwn yr heriau rydym yn parhau i’w hwynebu yn ystod y pandemig byd-eang cyfredol.
Byddwn yn cynnal y gynhadledd hon yn y cnawd. Fodd bynnag, byddwn yn gweithio yn unol â chanllawiau’r llywodraeth.
Beth yw’r cyfeiriad?
Ramada Plaza, Wrecsam
Ellice Way
Wrecsam
Ffôn: +44 (0)1978 291 400
A allaf gael treuliau teithio?
Mae’r gynhadledd ei hun yn ddi-dâl. Fodd bynnag, mae’n ddrwg gennym nad ydym yn gallu talu unrhyw dreuliau teithio.
A yw cinio’n cael ei gynnwys?
Ydyw, caiff cinio a lluniaeth eu gweini ar yr amseroedd priodol. Gofynnir ichi am unrhyw ofynion dietegol wrth ichi gofrestru ar gyfer y gynhadledd.
Mae gen i ofynion hygyrchedd, a allwch chi helpu?
Sicrhewch, os gwelwch yn dda, eich bod yn dynodi’ch gofynion wrth ichi gofrestru ar gyfer y digwyddiad, a gwnawn gynnwys y rhain ar y diwrnod.
A oes yna god gwisg ar gyfer y gynhadledd?
Bydd y cod gwisg ar gyfer y gynhadledd yn ddillad trwsiadus/dillad segura.
Beth yw amseroedd dechrau a gorffen y digwyddiad?
Bydd cynhadledd y digwyddiad yn dechrau am 10:00yb, gan gyrraedd yno erbyn 9:30yb gyda lluniaeth. Bydd y digwyddiad wedyn yn gorffen am 4:30yp.
A fyddaf yn gallu cael copi o gyflwyniadau?
Ein nod fydd cael copi o gyflwyniadau gan bob un siaradwr i fod ar gael ar ôl y digwyddiad. Gwneir hyn yn ôl disgresiwn y siaradwr, ac felly ni allwn sicrhau y bydd y cyfan ar gael.