Gwybodaeth am ddementia yn Gymraeg
Rydyn ni'n cynhyrchu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth dementia ar-lein ac wedi ei argraffu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Adnoddau dementia yn Gymraeg
Dyma fi / This is me (dwyieithog – Cymraeg a Saesneg)
Mae 'Dyma fi' yn daflen syml ar gyfer unrhyw un sy'n derbyn gofal proffesiynol sy'n byw gyda dementia neu’n profi deliriwm neu anawsterau cyfathrebu eraill.
Darllenwch Dyma fi ar-lein / Lawrlwytho fersiwn i’w argraffu
Y canllaw dementia
Mae 'Y canllaw dementia' ar gyfer unrhyw un sydd wedi cael gwybod yn ddiweddar bod dementia arnynt. Bydd hefyd yn ddefnyddiol i ffrindiau a theulu rhywun sydd wedi cael diagnosis diweddar.
Darllenwch Y canllaw dementia ar-lein / Lawrlwytho fersiwn i’w argraffu
Dalenni ffeithiau yn Gymraeg
- Beth yw dementia? (400WEL)
Fersiwn PDF i’w Hargraffu - Beth yw Clefyd Alzheimer? (401WEL)
Fersiwn PDF i’w Hargraffu - Beth yw dementia fasgwlaidd (402WEL)
Fersiwn PDF i’w Hargraffu - Y dreth gyngor (414WEL)
Fersiwn PDF i’w Hargraffu - Newidiadau mewn ymddygiad (525WEL)
Fersiwn PDF i’w Hargraffu - Gofal seibiant yng Nghymru (W462WEL)
Fersiwn PDF i’w Hargraffu - Talu am ofal a chymorth yng Nghymru (W532WEL)
Fersiwn PDF i’w Hargraffu
Copïau wedi eu hargraffu o wybodaeth yn Gymraeg
Gallwch ofyn i gael derbyn copi am ddim, wedi ei argraffu o'n gwybodaeth trwy ein ffurflen ar-lein. Neu, i archebu nifer o gopïau, anfonwch e-bost (yn Saesneg) at [email protected]
Cefnogaeth yn Gymraeg
Cysylltwch â’n llinell gymorth Dementia Connect:
- Ein llinell gymorth cyfrwng Cymraeg yw 03300 947 400
- Ein llinell gymorth Saesneg yw 0333 150 3456
Bydd ein cynghorwyr dementia yn gwrando ac yn cynnig cefnogaeth a chyngor i chi, gan eich rhoi mewn cysylltiad â’r cymorth rydych ei angen.
Straeon ac erthyglau am ddementia yn Gymraeg
Rydym yn cyhoeddi straeon ac erthyglau yn Gymraeg o bob rhifyn o'n cylchgrawn, Dementia together.
Gallwch weld yr holl erthyglau ac adnoddau diweddaraf yn Gymraeg o’n tudalen Gymraeg.