Gwirfoddoli gyda Keeping in Touch
Darganfyddwch sut y gallwch wirfoddoli gyda Keeping in Touch, ein gwasanaeth cymorth dementia ar y ffôn, a helpu i ddarparu cymorth hanfodol i bobl yr effeithir arnynt gan ddementia.
Fel gwirfoddolwr Keeping in Touch gallwch wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Mae ein tîm pwrpasol yn gwneud gwaith gwych, ond mae angen mwy o wirfoddolwyr arnom. Byddwch yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth arbenigol i roi hyder, sgiliau a gwybodaeth i chi helpu pobl gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Cysylltwch â ni heddiw i ddarganfod sut y gall gwirfoddoli gyda ni helpu i newid bywydau pobl y mae dementia yn effeithio arnynt.
Beth yw Keeping in Touch?
Gwasanaeth dros y ffôn yw Keeping in Touch, ac fel gwirfoddolwr byddwch chi’n ffonio pobl y mae dementia yn effeithio arnynt. Bwriad y galwadau yw gwneud yn siŵr bod pobl yn cael y cymorth maen nhw ei angen, neu ganfod a yw eu hanghenion o ran cymorth wedi newid. Drwy weithio mewn ffordd bersonol a chynnes, mae ein gwirfoddolwyr yn cynnig gwasanaeth cymorth cyfeillgar sydd wedi’i deilwra.
Pwy all wirfoddoli?
Os ydych chi’n mwynhau sgwrsio, yn dda am wrando ac yn frwd ynghylch helpu pobl, bydden ni'n hoffi clywed gennych. Bydd cyfle i chi ddysgu sgiliau newydd a siarad ag amrywiaeth o bobl. Mae angen i chi fod o leiaf 16 mlwydd oed i gofrestru, ac fe gewch chi’r holl hyfforddiant a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch.
Pa mor aml y mae’n rhaid i mi wirfoddoli?
Rydym ni’n disgwyl i wirfoddolwyr Keeping in Touch gynnig o leiaf 3 awr y mis, ond mae croeso i chi wneud mwy.
‘Mae Cymdeithas Alzheimer's yn rhoi llawer o hyfforddiant i chi ac rydych chi’n tyfu gyda’r elusen – maen nhw’n eich dilyn chi ar eich taith.’ - Gwirfoddolwr Cymdeithas Alzheimer's